Tlodi Tanwydd y Gaeaf

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:07, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy’n cydweithio’n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, mewn perthynas ag ôl-osod. Rwyf hefyd wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ar ddatgarboneiddio gyda dau arall o fy nghyd-Ysgrifenyddion Cabinet, felly bydd hynny’n sbardun mawr i weithredu traws-Lywodraethol. Roeddwn am helpu i gyflwyno cynigion i gyflawni ein hymrwymiadau heriol o ran carbon hefyd. Felly, er y byddwn yn parhau i edrych ar raddfa ein rhaglenni effeithlonrwydd ynni ein hunain, mae angen i ni edrych ar ein huchelgeisiau o ran datgarboneiddio. Ni ellir eu cyflawni drwy gyllid y Llywodraeth yn unig, felly rydym yn mynd i sicrhau bod gennym ddull llawer mwy cydgysylltiedig ar draws y Llywodraeth ac ar draws pob sector, mewn gwirionedd, i’n cynorthwyo i gyflawni mewn perthynas â’r agenda hon.