Tlodi Tanwydd y Gaeaf

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 2:09, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Wrth benderfynu ar gynllun newydd i ddisodli’r cynllun Nyth, a allwch ddweud wrthym a fuasech yn barod i edrych ar reolau cymhwysedd mewn perthynas â gwneud cais am welliannau effeithlonrwydd ynni yn y cartref? Rwy’n credu bod gan becyn cymorth ynni cyfatebol yr Alban feini prawf llai llym, ac mae ar gael i’r rhai sydd ar incwm isel ac sy’n feichiog, er enghraifft, neu i rai cartrefi â phlant. Yng Nghymru, mae rheolau cyfredol yn eithrio llawer o bobl sy’n wynebu tlodi o ran tanwydd, yn enwedig pobl ifanc, felly gyda’r cynllun newydd a fydd, o bosibl, yn cael ei roi ar waith, gobeithio, ar ôl i’r un cyfredol ddod i ben, tybed a fuasech yn ystyried newid y meini prawf hynny.