Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 18 Hydref 2017.
Diolch. Mae’r Llywodraeth hon yn cefnogi newydd-ddyfodiaid ifanc i amaethyddiaeth drwy nifer o fesurau pwysig. Yn y setliad cyllidebol diweddar, neilltuwyd £6 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf ar gyfer cynllun cymorth i newydd-ddyfodiaid ifanc yr ydym yn y broses o’i ddatblygu ac sy’n ategu ein pecyn cymorth ehangach. Ac wrth gwrs rydym yn cyfarfod y prynhawn yma i’w drafod ymhellach.