Pobl Ifanc yn y Diwydiant Ffermio

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:12, 18 Hydref 2017

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet. Rwy’n edrych ymlaen at drafod manylion y cytundeb rhyngom ni i sefydlu cynllun ar gyfer ffermwyr ifanc o ryw £6 miliwn. Y tro diwethaf yr oedd gan Lywodraeth Cymru gynllun o’r fath, roedd yna ryw £7 miliwn o arian yn y cynllun hwnnw, ac roedd e wedi helpu 520 o bobl ifanc i mewn i ddiwydiant amaeth. Efallai fod rhywun sy’n bresennol yn cofio’r cynllun hwnnw, Llywydd.

Wrth fynd ymlaen â’r cynllun yma, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn ein bod ni’n gyrru neges gref i ffermwyr ifanc ein bod ni’n moyn iddyn nhw fod yn rhan o lywio’r cynllun a’u bod nhw’n gallu dysgu oddi wrth ei gilydd hefyd. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ystyried pa rôl y mae clybiau ffermwyr ifanc yn gallu ei chwarae yn hyn, wrth hysbysebu cynllun o’r fath, wrth rannu a dysgu, ac, wrth gwrs, wrth roi cefnogaeth a mentora uniongyrchol i ffermwyr ifanc?