Cymunedau yn Gyntaf

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:17, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am grybwyll hyn, ac mae llawer o Aelodau eraill hefyd wedi gwneud hynny. Diolch i chi am hynny. Rwy’n cytuno mai un o’r blaenoriaethau yw sicrhau bod staff Cymunedau yn Gyntaf yn cael eu cefnogi drwy’r cyfnod pontio hwn, ac mae’n flaenoriaeth bwysig. Rwy’n ymwybodol fod fy swyddogion wedi bod yn gweithio gyda chyrff cyflawni arweiniol i sicrhau bod y gweithdrefnau cywir yn cael eu dilyn, gan gynnwys cysylltu â chynrychiolwyr undeb yn ôl yr angen. Gwn y bydd llawer o’r staff Cymunedau yn Gyntaf yn Sir y Fflint a ledled Cymru eisiau parhau i weithio i gefnogi ein cymunedau mewn rhaglenni pwysig eraill, ac rwy’n dymuno pob lwc iddynt gyda hynny hefyd.