Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 18 Hydref 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae cymaint o ddryswch erbyn hyn ynglŷn â dirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben yn ein cymunedau fel bod nifer o swyddi gwag parhaol yn dal i gael eu hysbysebu ar-lein. Pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau nad yw arian y trethdalwyr yn cael ei wastraffu ar brosesau recriwtio pellach ar gyfer cynllun yr ydych, yn dechnegol, yn ei ddirwyn i ben?