Effaith Diwygiadau Lles ar Dde-ddwyrain Cymru

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 2:19, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gynharach eleni, mewn ymchwil a gomisiynwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd, darganfuwyd bod ôl-ddyledion rhent cyfartalog tenantiaid sy’n hawlio credyd cynhwysol yn £449.97. Bydd y cyfnod aros o chwe wythnos am y taliadau cyntaf yn golygu y bydd taliad cyntaf credyd cynhwysol ar gyfer pobl yng Nghasnewydd ar 27 o Ragfyr. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet, unwaith eto, annog Llywodraeth y DU i ailystyried y cyfnod aros o chwe wythnos ar gyfer y polisi diffygiol hwn, a fydd yn gwthio mwy byth o bobl i mewn i dlodi a dyled, yn ogystal â chefnogi galwadau’r sector tai i fynd ati ar unwaith i gyflwyno’r porth landlordiaid a’r statws partner dibynadwy sy’n fawr eu hangen, fel bod cymdeithasau tai yng Nghymru yn cael eu trin yr un fath â’r rhai yn Lloegr?