Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 18 Hydref 2017.
Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am godi’r mater hwnnw gyda mi heddiw. Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn iddynt roi stop ar gyflwyno’r credyd cynhwysol. Nid oedd egwyddor y rhaglen credyd cynhwysol yn anghywir, ond nid yw’n gweithio’n iawn ac mae pobl yn cael eu heffeithio a’u trawmateiddio yn y ffordd y maent yn byw eu bywydau. Yn wir, mae aros am chwe wythnos—. Darllenais erthygl heddiw am berson ifanc iawn yn Wirral yng Nglannau Mersi a oedd yn gorfod aros am chwe wythnos ac a oedd yn hunanladdol ac yn byw ar ddŵr dros y cyfnod hwnnw o amser. Nid yw’n iawn, mae angen ei stopio ac mae angen ei ailasesu yn awr.