Effaith Diwygiadau Lles ar Dde-ddwyrain Cymru

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 2:21, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’r Aelod dros Orllewin Casnewydd wedi crybwyll lefelau dyled bersonol a’r ffaith eu bod yn un o effeithiau go iawn y diwygiadau lles erchyll sy’n cael eu gorfodi arnom gan y wladwriaeth Brydeinig. Mae ymchwil a gynhaliwyd yn gynharach eleni wedi dangos mai lefelau dyled bersonol yn ardal cod post Casnewydd oedd yr uchaf yng Nghymru, ac ar draws y Deyrnas Unedig, maent yn awr yn cyrraedd lefelau nas gwelwyd ers cyn y dirwasgiad. Rwy’n meddwl tybed pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu hystyried yng ngoleuni’r ymchwil newydd hwn i dargedu cymorth ariannol moesegol yn yr ardaloedd sydd â’r lefel uchaf o ddyled bersonol, a hefyd yr ardaloedd sy’n colli gwasanaethau ariannol gan y banciau traddodiadol, gan mai’r peth olaf yr ydym ei eisiau yw i’r bobl hyn sydd eisoes o dan warchae’r wladwriaeth i fod o dan warchae benthycwyr twyllodrus hefyd.