Effaith Diwygiadau Lles ar Dde-ddwyrain Cymru

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:22, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Ie, mae’r Aelod yn iawn i nodi’r pwynt hwn, ac rwyf wedi gweithio gyda Bethan Jenkins mewn perthynas â llythrennedd ariannol; mae’n bwynt pwysig iawn. Ond problem llawer o’r bobl hyn sy’n rhan o broses y credyd cynhwysol yw nad oes ganddynt unrhyw arian. Y broblem yw bod meddu ar gynilion neu rywbeth arall yn foethusrwydd. Mae’r rhaglen hon yn ddiffygiol. Rwy’n ddiolchgar am gefnogaeth yr Aelod yn hyn o beth, ond mewn gwirionedd mae’n rhaid i ni, gyda’n gilydd, feddwl am sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cydnabod yr effaith niweidiol y mae cyflwyno’r credyd cynhwysol yn ei chael ar gymunedau. Ac er ein bod wedi cael dwy ardal brawf yng Nghymru, roedd llawer o dystiolaeth y tu ôl i hynny’n sôn am yr effaith ddinistriol y mae’n ei chael ar y teuluoedd yn yr ardaloedd hynny. Nid ydym ond newydd ddechrau’r broses o gyflwyno’r rhaglen hon, ond mae’n ddiffygiol ac mae angen ei stopio.