Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:23, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Fel y byddwch yn gwybod, cyhoeddodd y Prif Weinidog ar ddechrau’r mis y buasai £10 biliwn yn ychwanegol ar gyfer y cynllun Cymorth i Brynu, er mwyn ysgogi adeiladu cartrefi newydd a chymell 135,000 yn fwy o bobl i fynd ar yr ysgol dai, gyda manylion y cynlluniau llawn i’w cynnwys yng nghyllideb y DU ar 22 Tachwedd. O ystyried bod Llywodraeth Cymru yn y gorffennol wedi lansio ei fersiwn ei hun o’r rhaglen hon tua 18 mis ar ôl i’r DU wneud cyhoeddiad tebyg, gyda chyllid benthyciadau ailgylchadwy, sut y credwch y gallai Cymru gael ei heffeithio neu sut y gallai elwa ar hyn, a pha ymgysylltiad a gawsoch neu y byddwch yn ei gael gyda Llywodraeth y DU yn unol â hynny?