2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 18 Hydref 2017.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Llywydd. Fel y byddwch yn gwybod, cyhoeddodd y Prif Weinidog ar ddechrau’r mis y buasai £10 biliwn yn ychwanegol ar gyfer y cynllun Cymorth i Brynu, er mwyn ysgogi adeiladu cartrefi newydd a chymell 135,000 yn fwy o bobl i fynd ar yr ysgol dai, gyda manylion y cynlluniau llawn i’w cynnwys yng nghyllideb y DU ar 22 Tachwedd. O ystyried bod Llywodraeth Cymru yn y gorffennol wedi lansio ei fersiwn ei hun o’r rhaglen hon tua 18 mis ar ôl i’r DU wneud cyhoeddiad tebyg, gyda chyllid benthyciadau ailgylchadwy, sut y credwch y gallai Cymru gael ei heffeithio neu sut y gallai elwa ar hyn, a pha ymgysylltiad a gawsoch neu y byddwch yn ei gael gyda Llywodraeth y DU yn unol â hynny?
Nid ydym wedi cael unrhyw arwydd o unrhyw gyllid ychwanegol yn dod i Gymru ar y pwynt penodol hwnnw.
Wel, rwy’n siomedig, yn amlwg, ond rwy’n gobeithio y byddwch yn mynd ar drywydd hynny, o ystyried nad arian bloc arferol yw hwn ond cyllid benthyciadau ailgylchadwy—os bydd yn cael ei gyllido ar yr un sail; wrth gwrs, nid ydym yn gwybod eto.
Gan symud ymlaen o dai i gymorth sy’n gysylltiedig â thai, wrth gwrs, ar ddiwedd y mis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod £10 miliwn y flwyddyn, am ddwy flynedd, yn cael ei adfer i’r rhaglen Cefnogi Pobl. Wrth gwrs, cafodd ei groesawu’n fawr, a bydd £4 miliwn o hwnnw’n mynd drwy eich cyllideb adrannol chi. Croesawyd hyn gan y sector, ond roeddent yn galw am sicrwydd y byddai’r arian yn cael ei neilltuo ar gyfer cymdeithasau tai a darparwyr y trydydd sector. Ai felly y bydd hi, neu pa sicrwydd y gallwch ei roi, gan weithio gyda hwy, y bydd yr arian hwn yn cyrraedd lle y mae angen iddo fynd?
Gallai’r Aelod fod wedi bod ychydig yn fwy hael yn ei sylwadau. Nid arian a gafodd ei roi’n ôl i mewn i’r system oedd hwn; roedd hwn yn arian ychwanegol. Mae’r Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru wedi rhoi £10 miliwn ychwanegol am ddwy flynedd er mwyn mynd i’r afael â digartrefedd—£6 miliwn o hwnnw i’r grant cynnal refeniw a £4 miliwn i fy llinell wariant i. Ni allaf warantu sut y bydd hynny’n gweithio, oherwydd mae’n ymwneud â gweithio gyda’r sector a sefydliadau i gael y gwerth gorau i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â digartrefedd, ac rwyf eisoes mewn trafodaethau gydag asiantaethau ynglŷn â sut y bydd hynny’n edrych o ran y ddarpariaeth ar gyfer y dyfodol.
Wrth gwrs, roedd yn fater o adfer arian a gymerwyd o’r gyllideb ers 2013, a chafodd hynny ei groesawu, ond mae angen i ni wybod a fydd yn cael ei neilltuo oherwydd mae’n ymwneud â gweithio gyda phobl, er enghraifft, drwy’r Rhaglen Pobl a Lleoedd a ariennir gan y Loteri Fawr, sy’n gorfod cyllido prosiectau i fod yn rhai wedi’u harwain gan y bobl, ac yn seiliedig ar gryfderau a chefnogi pobl a chymunedau i adeiladu ar yr wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sydd ganddynt eisoes. Unwaith eto, sut y byddwch yn sicrhau felly fod hyn yn cyd-fynd â’r mathau hynny o raglenni, ac yn galluogi pobl i chwarae rhan uniongyrchol yn y gwelliannau yn eu bywydau eu hunain?
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar y Llywodraeth a chyrff sector cyhoeddus. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau y tu allan i’r sector cyhoeddus yn y trydydd sector. Mae Llamau, Wallich a sefydliadau eraill yn awyddus iawn i ddeall sut y dylem ddefnyddio’r arian hwn yn y ffordd orau. Nid wyf yn arbenigwr yn y maes hwn, ond maent hwy, ac rwyf eisiau gweithio gyda hwy i sicrhau ein bod yn cyfeirio ein cyllid cyfyngedig i’r lleoedd cywir er mwyn helpu pobl mewn angen ar draws ein cymunedau.
Llefarydd UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Llywydd. Heddiw, roeddwn eisiau tynnu sylw at broblem camddefnyddio cyffuriau a chamddefnyddio cyffuriau mewn mannau cyhoeddus yn arbennig. Rydym wedi cael sawl adroddiad yn y cyfryngau yn ddiweddar sy’n ymwneud â defnyddwyr cyffuriau yn chwistrellu heroin, yn weddol agored, yn ardal Butetown yng Nghaerdydd. Mae hyn hefyd yn tynnu sylw at broblem gysylltiedig nodwyddau, a all fod yn berygl gwirioneddol i blant, mater sydd wedi cael sylw yn y cyfryngau hefyd. Mae hon yn broblem nad yw wedi ei chyfyngu i Gaerdydd yn unig; mae hefyd yn broblem sy’n codi dro ar ôl tro mewn llawer o’n trefi yn y Cymoedd. Felly, fy nghwestiwn cyntaf yw: a ydych yn cydnabod bod hon yn broblem fawr, a pha gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i helpu’r awdurdodau perthnasol i fynd i’r afael â hi?
Mae’r defnydd o gyffuriau a chamddefnyddio sylweddau ar gynnydd, ond rydym yn gweld un o effeithiau diwygio lles yn cael effaith ar unigolion sy’n symud i mewn i’r gofod hwnnw. Ond gadewch i ni beidio ag anghofio bod pobl sy’n dioddef o gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol neu sylweddau yn fodau dynol hefyd. Mae’n rhaid i ni feddwl yn ofalus sut y gallwn eu cefnogi trwy wneud yn siŵr ein bod yn gallu gweithredu’n briodol i’w cynorthwyo i roi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau ac alcohol, a’u rhoi yn ôl ar y llwybr tuag at lwyddiant. Mae’n peri gofid i mi pan fyddaf yn gweld pobl yn ein cymunedau yn cymryd cyffuriau a’r cyfarpar arall a ddefnyddir i wneud eu hunain yn agored i risg. Mae’n ddyletswydd arnom i wneud yn siŵr ein bod yn gallu helpu pawb yn ein cymunedau, ni waeth beth yw eu safle mewn bywyd neu ble y maent.
Ie, ac rwy’n cytuno â’r hyn a ddywedwch. Mae’r rhain yn fodau dynol—nid oes neb yn gwadu hynny—ac mae angen i ni helpu’r bobl hyn cyn belled ag y gallwn i roi’r gorau i’w harferion. Ond o ran sut i ddelio â’r broblem fel mater o drefn gyhoeddus, efallai, beth yw eich barn ar stopio a chwilio a pha mor effeithiol ydyw i helpu i ddarparu amgylchedd trefol diogel?
Mae’r materion yn ymwneud â stopio a chwilio yn fater i Lywodraeth y DU a phlismona, ond mewn gwirionedd, nid wyf yn credu bod stopio a chwilio ynddo’i hun yn ddefnyddiol wrth ddarparu gwasanaethau i bobl sydd angen cael eu cefnogi. Mae ein rhaglen Cefnogi Pobl, ynghyd â’n polisi ar gamddefnyddio sylweddau, wedi’u cynllunio i helpu pobl i ddychwelyd i’r hyn a fuasai’n cael ei ystyried yn ffordd o fyw normal, beth bynnag y mae hynny’n ei olygu mewn gwirionedd. Ond mae mynd â hwy oddi wrth y risg y maent yn ei chreu iddynt eu hunain ac eraill yn rhywbeth y dylem weithio arno’n ofalus.
Ie, a Cefnogi Pobl, wrth gwrs, rydym yn aros i glywed beth fydd y cyllid ar gyfer hynny yn y gyllideb sydd i ddod, felly rwy’n falch eich bod wedi crybwyll Cefnogi Pobl. Ond ar fater cysylltiedig ar thema cyffuriau, a oes gennych unrhyw newyddion ynglŷn ag ymchwiliadau Llywodraeth Cymru i’r hyn a elwir yn fannau chwistrellu diogel, lle y gall defnyddwyr cyffuriau chwistrellu mewn amgylchedd dan oruchwyliaeth feddygol, ac a oes gennych unrhyw syniadau eich hun ar y mater sy’n cynnig ffordd bosibl o gael gwared ar nodwyddau oddi ar y strydoedd?
Cafwyd rhai trafodaethau gydag awdurdodau, ond mae hwn yn fater i Weinidog gwahanol. Byddaf yn gofyn i’r Gweinidog priodol ysgrifennu at yr Aelod.
Llefarydd Plaid Cymru, Bethan Jenkins.
Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch gadarnhau’r cwestiynau canlynol? A wnaeth Llywodraeth Cymru gynnig safle Rhosydd Baglan ar gyfer y carchar, pan oedd y safle, ar yr adeg y cafodd ei gynnig ym mis Mai 2016, wedi’i gategoreiddio fel parth perygl llifogydd C2 ac yn mynd yn erbyn nodyn cyngor technegol 15 eich canllawiau cynllunio eich hun? A allwch chi hefyd egluro a oedd y cyfamod ar y tir yn golygu na ellid ond ei ddefnyddio at ddibenion economaidd yn gydnaws â pharc diwydiannol?
Ni allaf roi ateb ‘ie’ neu ‘na’ i hynny, gan fod llawer o gwestiynau, ond os bydd yr Aelod yn amyneddgar gyda mi—. Roedd y tir y mae’r Aelod yn sôn amdano yn rhan o restr hir o diroedd sydd ar gael i unrhyw ddatblygwr, boed o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder neu unrhyw weithrediad masnachol arall, ac nid yw’n anarferol i ni wneud hynny. A oes cyfamod ar y tir? Rwy’n credu bod cyfamod ar y tir.
Iawn. Nid wyf yn credu eich bod wedi ateb y cwestiwn cyntaf, ond gallaf ddod yn ôl ato eto. Rwyf eisiau ceisio ymchwilio ymhellach i hynny’n benodol. Pam na chafodd y categori perygl llifogydd ei ddiweddaru drwy Cyfoeth Naturiol Cymru hyd nes fis Mawrth 2017? Dyna’r mis y daeth y newyddion am y safle—. Cafodd y dewis a ffafrid ar gyfer carchar newydd ei wneud yn gyhoeddus yn ystod y cyfnod hwn. Yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall o gyfathrebiad drwy ein cynghorydd, Nigel Hunt, ni soniodd Cyfoeth Naturiol Cymru wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot am y newid i’r categori perygl llifogydd hyd nes fis Chwefror, ychydig wythnosau cyn i’r safle gael ei ddewis yn gyhoeddus. Pam y digwyddodd hyn? A allwch gadarnhau pryd y dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru wrthych chi, neu unrhyw un arall yn Llywodraeth Cymru, y buasai categori perygl llifogydd y tir yn newid, gan ei wneud yn ddewis posibl ar gyfer datblygiad mawr fel y carchar? Gan dybio y buasai wedi cymryd peth amser i lunio rhestr o safleoedd addas ar gyfer carchar o’r maint hwn, roedd hynny cyn i’r categori perygl llifogydd gael ei newid.
Nid oes gennyf y manylion ynglŷn â phryd y digwyddodd yr ohebiaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru neu fel arall. Ond byddaf yn sicrhau bod yr Aelod yn cael gwybod y manylion hynny. Ond dylai’r Aelod fod yn ymwybodol hefyd, oherwydd bod y tir hwn wedi’i gynllunio gyda pherygl llifogydd, mae yna gyfleoedd i ddatblygwyr liniaru yn erbyn hynny. Felly, mae’r Aelod yn cyfeirio at y ffaith y gallai perygl llifogydd fod wedi’i osod ar y tir, ond mewn gwirionedd, gellir ystyried lliniaru gan unrhyw fusnesau mewn proses gynllunio arferol.
Y pwynt yw, fodd bynnag, ei fod wedi cael ei newid, fod hynny wedi ei wneud yn lleoliad posibl, felly, i’r carchar hwn allu cael ei adeiladu. Yn y gorffennol, nid oedd mor bosibl i ddiwydiannau geisio’r tir hwnnw, ac rwy’n ceisio deall pam oedd hynny a phryd y cafodd y penderfyniad ei wneud, ac nid wyf yn clywed hynny gennych yma heddiw. O ran y cyfamod, a’r hyn rwy’n ei ddeall, fel chi, fel rydym wedi clywed, yw bod cyfamod ar waith, rwyf wedi cael cyngor cyfreithiol, sy’n dweud, ac rwy’n dyfynnu, ‘Gan dybio bod y cyfamod yn gyfreithiol ddilys, mae’n golygu bod y safle’n cael ei effeithio gan rwymedigaeth o blaid trydydd parti sy’n cyfyngu ei ddefnydd i barc diwydiannol yn unig. Yn yr amgylchiadau hynny, gallai adeiladu carchar ar y safle dorri’r cyfamod.’
Sut y bwriadwch oresgyn hyn, gan dybio y byddwch yn parhau i gydweithio â Llywodraeth y DU a pharhau i gynnig y tir hwn ar gyfer y carchar? Y gwir amdani, wrth gwrs, yw ein bod yn deall y bydd pethau, o bosibl, yn newid mewn perthynas â llifogydd a chategoreiddio, ac mae’r cyfamod bellach yn sicrhau y dylai fod at ddefnydd diwydiannol. A wnewch chi, felly, ddweud wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ‘Wel, mewn gwirionedd, nid ydym yn cydweithio mewn perthynas â’r darn hwn o dir mwyach, ac ni fyddwn, felly, yn darparu Rhosydd Baglan fel safle carchar’?
Rwy’n siomedig iawn ynglŷn â thôn y cwestiwn gan yr Aelod. Rwyf wedi bod yn trafod gyda hi, a llawer o Aelodau eraill, gan gynnwys Dai Rees, yr Aelod lleol—[Torri ar draws.] Pe bai’r Aelodau’n hoffi gwrando, buaswn yn fwy na hapus i ateb y cwestiwn. Y ffaith amdani yw bod hwn yn fater i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Rydym ni, fel bob amser, a chyda’n proses dir, yn cynnig tir sy’n briodol ar gyfer datblygu. Os ydynt yn dymuno edrych ar y cyfamod, neu drefniadau eraill mewn perthynas â’r tir, mater i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yw hwnnw, nid i Lywodraeth Cymru.