Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 18 Hydref 2017.
Wel, rwy’n siomedig, yn amlwg, ond rwy’n gobeithio y byddwch yn mynd ar drywydd hynny, o ystyried nad arian bloc arferol yw hwn ond cyllid benthyciadau ailgylchadwy—os bydd yn cael ei gyllido ar yr un sail; wrth gwrs, nid ydym yn gwybod eto.
Gan symud ymlaen o dai i gymorth sy’n gysylltiedig â thai, wrth gwrs, ar ddiwedd y mis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod £10 miliwn y flwyddyn, am ddwy flynedd, yn cael ei adfer i’r rhaglen Cefnogi Pobl. Wrth gwrs, cafodd ei groesawu’n fawr, a bydd £4 miliwn o hwnnw’n mynd drwy eich cyllideb adrannol chi. Croesawyd hyn gan y sector, ond roeddent yn galw am sicrwydd y byddai’r arian yn cael ei neilltuo ar gyfer cymdeithasau tai a darparwyr y trydydd sector. Ai felly y bydd hi, neu pa sicrwydd y gallwch ei roi, gan weithio gyda hwy, y bydd yr arian hwn yn cyrraedd lle y mae angen iddo fynd?