Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 18 Hydref 2017.
Wrth gwrs, roedd yn fater o adfer arian a gymerwyd o’r gyllideb ers 2013, a chafodd hynny ei groesawu, ond mae angen i ni wybod a fydd yn cael ei neilltuo oherwydd mae’n ymwneud â gweithio gyda phobl, er enghraifft, drwy’r Rhaglen Pobl a Lleoedd a ariennir gan y Loteri Fawr, sy’n gorfod cyllido prosiectau i fod yn rhai wedi’u harwain gan y bobl, ac yn seiliedig ar gryfderau a chefnogi pobl a chymunedau i adeiladu ar yr wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sydd ganddynt eisoes. Unwaith eto, sut y byddwch yn sicrhau felly fod hyn yn cyd-fynd â’r mathau hynny o raglenni, ac yn galluogi pobl i chwarae rhan uniongyrchol yn y gwelliannau yn eu bywydau eu hunain?