Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 18 Hydref 2017.
Ni allaf roi ateb ‘ie’ neu ‘na’ i hynny, gan fod llawer o gwestiynau, ond os bydd yr Aelod yn amyneddgar gyda mi—. Roedd y tir y mae’r Aelod yn sôn amdano yn rhan o restr hir o diroedd sydd ar gael i unrhyw ddatblygwr, boed o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder neu unrhyw weithrediad masnachol arall, ac nid yw’n anarferol i ni wneud hynny. A oes cyfamod ar y tir? Rwy’n credu bod cyfamod ar y tir.