Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 18 Hydref 2017.
Nid oes gennyf y manylion ynglŷn â phryd y digwyddodd yr ohebiaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru neu fel arall. Ond byddaf yn sicrhau bod yr Aelod yn cael gwybod y manylion hynny. Ond dylai’r Aelod fod yn ymwybodol hefyd, oherwydd bod y tir hwn wedi’i gynllunio gyda pherygl llifogydd, mae yna gyfleoedd i ddatblygwyr liniaru yn erbyn hynny. Felly, mae’r Aelod yn cyfeirio at y ffaith y gallai perygl llifogydd fod wedi’i osod ar y tir, ond mewn gwirionedd, gellir ystyried lliniaru gan unrhyw fusnesau mewn proses gynllunio arferol.