Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 18 Hydref 2017.
Rwy’n siomedig iawn ynglŷn â thôn y cwestiwn gan yr Aelod. Rwyf wedi bod yn trafod gyda hi, a llawer o Aelodau eraill, gan gynnwys Dai Rees, yr Aelod lleol—[Torri ar draws.] Pe bai’r Aelodau’n hoffi gwrando, buaswn yn fwy na hapus i ateb y cwestiwn. Y ffaith amdani yw bod hwn yn fater i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Rydym ni, fel bob amser, a chyda’n proses dir, yn cynnig tir sy’n briodol ar gyfer datblygu. Os ydynt yn dymuno edrych ar y cyfamod, neu drefniadau eraill mewn perthynas â’r tir, mater i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yw hwnnw, nid i Lywodraeth Cymru.