Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 18 Hydref 2017.
Llywydd, mae hon yn stori newyddion dda i ni gan fod ansawdd cartrefi mor bwysig i lesiant bobl. Mae hefyd yn hanfodol er mwyn inni gyflawni llawer o’n nodau eraill fel Llywodraeth, gan gynnwys gwella iechyd a llesiant y genedl. Mae gan fuddsoddi mewn gwella ac adeiladu cartrefi botensial enfawr i greu swyddi a chyfleoedd hyfforddi mewn ardaloedd fel etholaeth Rhianon Passmore, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau’r gefnogaeth honno i sefydliadau sy’n datblygu safonau ansawdd tai.