Safon Ansawdd Tai Cymru

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:36, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, ymwelais â’r tŷ Solcer ym Mhen-y-bont ar Ogwr fel rhan o waith y pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, ac roeddwn yn frwdfrydig iawn i weld y posibilrwydd o adeiladu cartrefi sydd erbyn hyn yn cynhyrchu mwy o ynni nag y maent yn ei ddefnyddio mewn gwirionedd. Nawr, mae’r tŷ hwnnw’n costio tua dwywaith cymaint â thŷ wedi ei adeiladu yn y ffordd arferol, ond nid yw wedi cael ei wneud ar y raddfa gywir eto, ac rwy’n deall bod tai cymdeithasol yn cynnig cyfle i ddatblygu’r cynhyrchion hyn ar y raddfa gywir, ac maent yn ddeniadol ac yn effeithlon iawn ac yn cynnig manteision enfawr i bobl, yn enwedig rhai a allai fod mewn tlodi o ran tanwydd hefyd.