Cyn-filwyr

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:42, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Yr hyn y ceisiwn ei sefydlu yma yw ateb cenedlaethol i’r problemau, yn ogystal ag yma yng Nghymru. Rydym yn ceisio nodi pobl sy’n gadael y lluoedd arfog sydd eisiau cymorth a chynnig llwybr iddynt tuag at newid. Rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth y DU, o ran sut y maent yn ymdrin â chyn-filwyr—ac rwyf wedi dwyn hyn i sylw Gweinidogion ar sawl achlysur mewn perthynas â’u cyfrifoldebau moesol, pan fydd pobl yn mynd i ymladd, o ran sut y maent yn ymdrin â hwy ac yn eu cefnogi ar ôl iddynt ddychwelyd. Mae’n rhywbeth y byddaf yn parhau i’w wneud a byddaf yn gweithio gyda grŵp arbenigol y lluoedd arfog ar hynny.