Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 18 Hydref 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn cytuno mai un gwasanaeth cymorth lefel isel yw mudiad Siediau Cyn-filwyr, y sefydlwyd y gyntaf ohonynt, wrth gwrs, yng ngogledd Cymru, ac sydd bellach yn fodel sy’n cael ei gopïo mewn rhannau eraill o’r wlad, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y DU yn ogystal, ac mae hynny’n rhywbeth y dylai Llywodraeth Cymru ei gefnogi? Gwn fod eich cyd-Aelod, Lesley Griffiths, pan oedd hi’n gyfrifol am bortffolio’r lluoedd arfog, wedi ymweld â’r Sied Cyn-filwyr ym Mae Colwyn a bod yr hyn y maent yn ei gyflawni wedi creu argraff fawr arni. Ond pa adnoddau y gallai Llywodraeth Cymru sicrhau eu bod ar gael i gefnogi rhwydwaith Siediau Cyn-filwyr Cymru fel y gall wella bywydau cyn-filwyr eraill mewn rhannau eraill o Gymru lle nad ydynt ar gael ar hyn o bryd?