Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 18 Hydref 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn aml, gall cyn-aelodau o’r lluoedd arfog ei chael hi’n anodd cael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth newydd, er gwaethaf y cyfoeth o sgiliau trosglwyddadwy sydd ganddynt, ac rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol o’r sylw y mae’r mater hwn wedi’i gael yn y cyfryngau yn ddiweddar. Yn eich ateb i David Rowlands, fe gyfeirioch at gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu yn y maes hwn. Tybed a allech chi ymhelaethu ar hynny, os gwelwch yn dda.