Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 18 Hydref 2017.
Rwy’n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod, cwestiwn pwysig ynglŷn â sut y symudwn o swydd yn y lluoedd arfog i’r sector cyhoeddus a’r sector preifat, sy’n gallu bod yn drawsnewidiad anodd iawn i rai. Rydym yn gweithio gyda’r Bartneriaeth Pontio Gyrfa pan fo milwyr yn cael eu rhyddhau. Yn wir, rwyf hefyd wedi cyfarfod ag un o gyn-ddefnyddwyr y gwasanaeth yn etholaeth Dawn Bowden, a oedd wedi symud o fod yn gyn-aelod o’r lluoedd arfog i fod yn aelod rhagorol o staff mewn cwmni contractio lleol. Mae yna bethau y gallwn eu dysgu yn y fan honno ynglŷn â’r mecanweithiau cymorth y gallai rhai pobl fod eu hangen yn ychwanegol at sgiliau gwaith a hyfforddiant a sut y dysgwn o brofiad. Mae’n rhywbeth y mae fy nhîm a grŵp arbenigol y lluoedd arfog yn edrych arno ac yn rhoi cyngor i mi yn ei gylch yn rheolaidd.