Technegau Rhianta Cadarnhaol

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 2:46, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Ddoe, lansiodd y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant eu hymgyrch rhianta cadarnhaol newydd, Take 5, sy’n ceisio annog rhieni i oedi ac ymateb yn ddigynnwrf wrth wynebu sefyllfa rianta sy’n heriol. Cafodd yr ymgyrch ei datblygu gyda rhieni yng Nghymru ac mae’n darparu cyngor sy’n hawdd ei gofio i’w helpu i beidio â chynhyrfu. Mae’n annog pobl i gymryd hoe—i oedi, i anadlu ac i ymateb yn ddigynnwrf wrth ymdrin â strancio, ymddygiad anodd neu sefyllfaoedd rhianta heriol eraill, megis amser bwyd a gwisgo—ac mae wedi’i gynllunio i gyd-fynd â’r cyngor a’r rhaglenni rhianta cadarnhaol sydd eisoes ar waith. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ategu fy nghroeso i ymgyrch y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, sy’n ceisio rhoi hyder i rieni wneud penderfyniadau mwy gwybodus i’w galluogi i feithrin perthynas gadarnhaol ac iach gyda’u plentyn?