Technegau Rhianta Cadarnhaol

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:47, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Yn wir, cyfarfûm â’r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant a chefais sesiwn friffio ar yr ymgyrch y maent wedi’i lansio. Ac rydych yn llygad eich lle, mae’n ategu ymgyrch TrafodMaguPlant a lansiwyd gennym fel Llywodraeth Cymru. Mae’n rhaid i ni barhau i weithio gyda’n gilydd yn rhagweithiol i gefnogi rhieni ar draws ein cymunedau, ac rwy’n ddiolchgar fod yr Aelod wedi crybwyll hyn heddiw.