Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 18 Hydref 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n cytuno â’r Aelod sydd newydd ofyn y cwestiwn fod angen edrych yn ofalus ar amddiffyn tenantiaid. Yn Lloegr, o ganlyniad i Ddeddf Dadreoleiddio 2015, ni all landlordiaid gyflwyno hysbysiadau adran 21 i breswylwyr os yw’r adeilad o safon wael ac os nad yw’n bodloni safonau deddfwriaethol. Ymddengys efallai fod hon yn ffordd briodol yn awr o reoleiddio’r maes hwn yng Nghymru hefyd.