Hysbysiadau o dan Adran 21 o Ddeddf Tai 1988

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:50, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Roedd hyn yn destun trafodaeth hir wrth i ni arwain Deddf Tai (Cymru) 2014 drwy’r Cynulliad yn y tymor blaenorol. A gaf fi ddweud wrth yr Aelod y bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, wrth gadw’r gallu i landlord gyflwyno rhybudd o ddau fis, yn cynnig mwy o amddiffyniad i ddeiliaid contractau drwy broses y Ddeddf ar gyfer troi allan er mwyn dial? Felly, mae yna ran o’r Ddeddf sy’n amddiffyn tenantiaid hefyd. Ond rwyf wedi clywed yr Aelod ac rwyf wedi clywed ei barn gref, a byddaf yn ystyried hynny ymhellach gyda fy nhîm.