Tlodi Ymysg Plant

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:53, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Dylai pob un o gynghorwyr ein hawdurdodau lleol, wrth gwrs, ystyried cyfiawnder cymdeithasol wrth wneud unrhyw benderfyniadau, ond tybed a yw’n debygol y byddwch yn croesawu penodiad penodol yr hyrwyddwr cyfiawnder cymdeithasol yng Nghyngor Sir Fynwy. Dyma unigolyn sydd wedi cael y gwaith o sicrhau bod y cysyniad cyfan yn drawsbynciol drwy’r holl broses o wneud penderfyniadau. Fy hun, buaswn yn fwy na balch pe bai’n ystyried hynny er mwyn gwneud yn siŵr fod erthyglau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn rhan o’i gwaith. Rwy’n meddwl tybed a ydych yn credu bod yr amser wedi dod yn awr i wneud yn siŵr fod erthygl 12 yn benodol, ond pob agwedd ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, yn orfodol yn ein gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol.