Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 18 Hydref 2017.
Wel, mae hwnnw, unwaith eto, yn destun trafodaeth hirsefydlog arall yn y Cynulliad hwn. Buaswn yn eithaf awyddus i drafod y mater ymhellach gyda’r Aelod ac eraill i wneud yn siŵr mai dyma’r peth iawn i’w wneud. Yr hyn sy’n fy mhryderu am hyrwyddwyr mewn sefydliadau yw mai bathodyn neu deitl ydyw yn aml. A dweud y gwir, yr hyn rwy’n awyddus iawn i’w wneud yw sicrhau bod yr hyrwyddwyr hynny’n troi eu dyletswydd yn gamau gweithredu. Rydym yn gweld hynny mewn sawl ffordd, ac rwyf wedi fy nghalonogi gan bwynt yr Aelod ynglŷn â’r cyngor penodol y mae’n ei grybwyll, gyda hyrwyddwr cyfiawnder cymdeithasol yn y sefydliad hwnnw. Rwy’n dymuno’n dda iddi.