Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 18 Hydref 2017.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cod ymarfer ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cyfleoedd cyflogaeth moesegol ymhlith busnesau sy’n cael cyllid cyhoeddus yn cynnig nodau clir ar gyfer sut y gall y sector preifat helpu i ddod â chaethwasiaeth fodern i ben. Nawr, mae busnesau fel y Co-operative Group yn arwain y frwydr drwy gynnig lleoliadau gwaith â thâl i ddioddefwyr caethwasiaeth fodern drwy eu rhaglen ‘Bright Future’ a sicrhau nad oes lle i weithwyr wedi’u masnachu yn eu cadwyni cyflenwi. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud yn fwy cyffredinol i sicrhau bod y cod yn cael ei ddilyn gan fusnesau sy’n derbyn cyllid cyhoeddus, a pha waith sy’n cael ei wneud i annog Llywodraeth San Steffan i ddilyn ein hesiampl?