Caethwasiaeth Fodern

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:58, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae’r Aelod yn iawn: mae’r cod yn torri tir newydd i Gymru, ynghyd â llawer o bethau eraill, ac yn torri tir newydd i’r DU. Gyda’r canllawiau atodol, mae’n darparu modd ymarferol i fynd i’r afael ag arferion annheg, anfoesol ac anghyfreithlon, gan gynnwys caethwasiaeth fodern. Fodd bynnag, yr Aelod arweiniol ar hyn yw fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Byddaf yn gofyn iddo ysgrifennu atoch gyda manylion penodol yn ymwneud â’r cod a’i weithrediad.