Caethwasiaeth Fodern

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:59, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Mynegwyd pryderon wrthyf fod masnachu pobl drwy borthladd Caergybi yn gwaethygu, ond nad oes digon o’r dioddefwyr sy’n daer eisiau cael eu canfod yn cael eu canfod, ac er gwaethaf hyn, mae wedi bod yn amhosibl cael y chwe chynrychiolydd sirol yng ngogledd Cymru o gwmpas y bwrdd hyd yn hyn. Sut yr ydych yn ymateb felly i ganfyddiadau adroddiad proffil lleol troseddau difrifol a threfnedig Heddlu Gogledd Cymru ar gaethwasiaeth fodern sy’n dweud bod yna dystiolaeth o grwpiau troseddu cyfundrefnol yn gweithredu yng ngogledd Cymru drwy fasnachu dioddefwyr drwy borthladd Caergybi i Iwerddon neu gyflogi dioddefwyr mewn salonau ewinedd neu buteindai dros dro, a thystiolaeth o grwpiau yng ngogledd Cymru, wedi’u clymu gan gysylltiadau teuluol, sy’n targedu dynion agored i niwed ar gyfer gwaith llaw a chanfasio?