Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 18 Hydref 2017.
Bydd llawer ohonom yn gyfarwydd â’r ddadl hon; mae Simon Thomas hefyd yn dweud wrthym am ei boen nad yw’n gallu defnyddio car trydan i fynd o Aberystwyth i deithio o amgylch ei ranbarth, sef Canolbarth a Gorllewin Cymru. Felly, roeddwn wrth fy modd yn clywed bod cynnig yn y gyllideb eleni i fuddsoddi £2 filiwn ar gyfer datblygu mwy o bwyntiau gwefru trydan fel nad ydynt ond ar gael ar yr M4 yn unig a rhannau dwyreiniol yr A55. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod gan Simon Thomas rywbeth i’w wneud gyda hyn, ond credaf nad yw’r ymrwymiad hwn gan Lywodraeth Lafur Cymru ond yn ddechrau ar sut y gwelwn y trawsnewid hwn yn digwydd, gan na allwn weld hon fel her i adeiladu gorsaf bŵer arall eto maint Hinkley Point, fel yr awgrymodd y Grid Cenedlaethol, a ddywedodd fod hynny’n ddigonol i fodloni’r galw brig gyda’r nos pe bai cerbydau trydan yn dod yn boblogaidd ac yn dod yn norm. Mae’n rhaid inni weld hyn fel cyfle i wasgaru ein dull o gynhyrchu a chyflenwi trydan, ac mae pwyntiau gwefru trydan yn ffordd ddelfrydol o gicdanio’r broses honno.
Felly, sut y gallwn wneud hyn? Yr ynni adnewyddadwy y mae gennym ddigonedd ohono yw gwynt; ni yw’r wlad fwyaf gwyntog yn Ewrop. Felly, yn hytrach na chael Brigands Inn ar yr A470 i osod pwynt gwefru trydan wedi ei gysylltu â’r grid, gallent fod yn cynhyrchu eu hynni gwynt a solar eu hunain, yn union fel y mae Chris Blake eisoes yn ei wneud. Yn wir, os ydynt yn gosod pwynt gwefru trydan gan ddefnyddio ynni confensiynol o’r grid, rwy’n cynnig y byddant yn gyflym yn colli eu mantais yn y farchnad heb fod yn rhy hir, wrth i bwyntiau gwefru trydan rhatach wedi eu tanio gan ynni adnewyddadwy ymddangos. Gallai hyn roi hwb mawr i gynlluniau ynni cymunedol na fyddant yn gorfod ysgwyddo costau cysylltu drud â’r grid os oes ganddynt incwm cyson o gerbydau trydan sydd angen gwefru ar gyfer trafnidiaeth leol ac ar gyfer teithiau pellach. Bydd hyn hefyd wedyn yn creu cyfle ychwanegol i bobl allu cynhyrchu eu hynni eu hunain ar gyfer cynhesu eu cartrefi.
Ond un cog yn unig yn y chwyldro sydd ei angen i wireddu ein dyfodol mwy cynaliadwy yw pwyntiau gwefru cerbydau trydan. Yr wythnos diwethaf, enillwyd Her Solar y Byd, a gynhaliwyd yn Awstralia, gan gar o’r Iseldiroedd a bwerir gan yr haul yn unig. Er bod gennym lai o haul nag yn Awstralia, mae cerbydau sydd wedi eu pweru o leiaf yn rhannol gan yr haul yn rhywbeth y bydd angen i ni ei ystyried hefyd. Nid yw cerbydau trydan yn newydd i Gymru. Cynhyrchwyd y fflôt laeth ym Merthyr rhwng y 1930au a’r 1980au, ac mae’r Eco Travel Network eisoes yn gweithredu ar draws Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan gynnig cerbydau trydanol i’w llogi o’u fflyd o Renault Twizys. Maent wedi datblygu rhwydwaith gwefru 13 amp anffurfiol gyda busnesau twristiaeth fel bod ymwelwyr yn cael dewis diddorol o atyniadau i ymweld â hwy, gweithgareddau i roi cynnig arnynt, a llefydd i fwyta ac yfed.
Ond nid at ddefnydd unigolion neu hamdden yn unig y mae cerbydau trydan. Maent yn un o’r ffyrdd allweddol y gallwn lanhau ein system trafnidiaeth gyhoeddus, ac mae’n rhaid i ni wneud hyn oherwydd ein hymrwymiadau newid yn yr hinsawdd. Nid dadl ynglŷn ag a fyddwn yn newid o ddiesel budr i systemau trafnidiaeth gyhoeddus glân—nid yw’n ymwneud ag a wnawn ni hynny, ond yn hytrach â sut y gwnawn hynny wrth newid o ddiesel budr i systemau trafnidiaeth gyhoeddus glân. Rydym wedi gweld yn barod fod Llundain, Milton Keynes a Nottingham i gyd wedi comisiynu cerbydau trydan, ac mae llawer ohonynt eisoes yn weithredol. Bydd yn rhaid i ddinasoedd eraill ddilyn. Felly, y cwestiwn yw: a all Cymru adeiladu’r cerbydau y bydd eu hangen ar gyfer y dyfodol, yn enwedig ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus dorfol, nid yn lleiaf, rhaid i mi ddweud, er mwyn cadw’r arbenigedd sydd gennym eisoes o amgylch ffatri injans Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’r ffatri injans Toyota ar Lannau Dyfrdwy, y bydd eu gweithgareddau presennol yn dod i ben o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU i ddod ag injans motor tanio petrol a diesel i ben erbyn 2040, ac yn llawer cynt na hynny mae’n debyg o ganlyniad i hynny? A allwn ni adeiladu diwydiant cerbydau amgen i ganolbwyntio ar uchelgeisiau di-garbon i wneud yn siŵr nad ydym yn colli’r arbenigedd sydd gennym ar hyn o bryd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yng Nglannau Dyfrdwy? Sut y gallwn fanteisio, er enghraifft, ar gynhyrchu tacsis Llundain ysgafn trydan, sydd bellach yn digwydd yng Nghaerffili, i wyrddu ein fflyd o dacsis ein hunain er enghraifft?
Nawr, y dewis arall yn lle cerbydau trydan yw hydrogen. Dyfeisiwyd y gell danwydd hydrogen gan William Grove o Abertawe yn y 1840au. Ddeuddeng mlynedd yn ôl—. Ond nid ydym wedi ei ddatblygu’n iawn hyd yn hyn. Ddeuddeg mlynedd yn ôl, roedd gan WalesOnline stori o dan y pennawd ‘Hydrogen Valley to put Wales on Green Map’. Ar yr adeg honno, roedd Awdurdod Datblygu Cymru yn bwriadu datblygu microeconomi yn ne Cymru yn seiliedig ar dechnoleg hydro. Disgrifiodd y Gweinidog Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth ar y pryd, Andrew Davies, y dyffryn hydrogen fel cyfle unigryw i ddefnyddio seilwaith hydrogen presennol i harneisio arbenigedd yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus. O fewn 10 mlynedd, roedd yn rhagweld y byddai yna orsafoedd tanwydd hydrogen, rhwydweithiau trafnidiaeth integredig heb allyriadau, tacsis dŵr yn rhedeg ar hydrogen a chanolfannau lle y gall cerbydau nwyddau trwm drosglwyddo nwyddau ar gerbydau trydan ar gyfer eu dosbarthu.
Mae’r canlyniadau hyd yn hyn yn gymedrol. Mae canolfan hydrogen Prifysgol De Cymru ym Maglan wedi datblygu gorsaf danwydd hydrogen gyntaf Cymru gan ddefnyddio hydrogen a gynhyrchir yn adnewyddadwy, ond mae gorsafoedd tanwydd hydrogen wedi eu cyfyngu i ddau safle Prifysgol De Cymru, ym Maglan ac ym Mhontypridd. Maent yn gweithio gyda chwmni bach yn Llandudno sy’n bwriadu adeiladu ceir hydrogen ar gyfer eu llogi i gychwyn y flwyddyn nesaf. Ond mae’n amlwg nad yw hyn ar y raddfa fawr y bydd angen i ni ei wneud yn y dyfodol.
Fy mhwynt olaf sydd angen i ni feddwl amdano yw systemau sydd eisoes ar waith ar gyfer cyfathrebu di-wifr rhwng cerbydau a’r systemau tagfeydd y mae angen i ni eu rheoli. Hynny yw, maent eisoes yn eu lle; rydym eisoes yn gallu eu gweld ar waith pan edrychwn i weld sut y mae mynd o A i B ar Google. Ond yn y dyfodol, byddant yn cael eu defnyddio fel cyfrwng ar gyfer rheoli ceir di-yrrwr, ac mae’n ymddangos i mi’n gwbl hanfodol ein bod yn ymladd i wrthsefyll preifateiddio’r rhwydwaith 5G, a fydd yn llwyfan i hyn allu digwydd. Mae angen i hwn fod yn wasanaeth cyhoeddus, nid yn wasanaeth er elw wedi ei breifateiddio na all neb ond pobl ag arian ei weithredu. Felly, mae honno’n ystyriaeth fawr i mi ei gadael gyda chi am y tro.