8. 6. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Dulliau Trafnidiaeth yn y Dyfodol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:55, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod. Ar y pwynt am rwydwaith cenedlaethol, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig cofio bod Shell heddiw, er enghraifft, wedi cyhoeddi eu bod yn mynd i osod pwyntiau gwefru trydan cyflym yn rhai o’u gorsafoedd petrol. Ond maent yn canolbwyntio ar dde-ddwyrain Lloegr, a dyma pam ei bod yn bwysig cael seilwaith cenedlaethol yma yng Nghymru, fel nad yw mannau yng Nghymru yn cael eu hepgor.