Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 18 Hydref 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Fel y mae Russell George wedi dweud, mae trafnidiaeth gyhoeddus dda yn hanfodol ar gyfer pobl iau yng Nghymru sy’n dibynnu ar fysiau a threnau i gael mynediad at ddosbarthiadau addysg, swyddi penwythnos, clybiau ar ôl ysgol a chwaraeon—mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Mae mynediad at y cyfleoedd a’r gweithgareddau hyn yn rhan annatod o ddatblygiad y genhedlaeth nesaf, sy’n parhau i’w gwneud yn glir eu bod am weld gwell trafnidiaeth gyhoeddus. Efallai fod yr Aelodau’n cofio bod Senedd Ieuenctid y DU wedi pleidleisio dros wneud trafnidiaeth gyhoeddus ratach, well a mwy hygyrch yn brif ymgyrch ar gyfer 2012. Deilliodd yr ymgyrch hon yn y DU o arolwg barn cenedlaethol o 65,000 o bobl ifanc, a nodai’r pum prif fater sy’n peri pryder i bobl ifanc, ac roedd trafnidiaeth gyhoeddus yn amlwg iawn ar frig yr agenda honno. Felly, mae’n bwysig fod Llywodraethau ar bob lefel yn dangos eu bod yn gwrando ar farn pobl ifanc wrth ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth.
Wrth gwrs, mae’n bwysig hefyd fod y diwydiant rheilffyrdd a bysiau’n gwrando ac yn ymgysylltu â phobl ifanc, gan fod pobl ifanc yn farchnad bwysig ar gyfer teithio cyhoeddus. Yn wir, yn aml iawn, ni fydd gan bobl ifanc unrhyw ddewis ond defnyddio gwasanaethau bws a thrên cyn iddynt ddysgu gyrru. Felly, rhaid i ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus sicrhau bod pobl ifanc yn cael profiad cadarnhaol o deithio’n gyhoeddus er mwyn eu hannog i barhau i ddefnyddio bysiau a threnau pan fyddant yn oedolion, hyd yn oed os ydynt yn dysgu gyrru neu’n prynu car.
Rydym yn byw mewn oes lle y mae’n cymryd eiliadau i anfon trydariad neu ddiweddaru statws ar Facebook, ac felly mae’n amlwg y gall pobl ifanc fod yn ddylanwad mawr ar drafnidiaeth gyhoeddus, neu’n feirniadol iawn ohoni, ac mae hynny’n rhywbeth nad yw’r diwydiant bysiau a threnau wedi bod o ddifrif yn ei gylch yn y gorffennol. Felly, efallai fod yna gyfle yn y fan hon i weithredwyr gwasanaethau bws a thrên ymgysylltu mwy â phobl iau wrth ddatblygu gwasanaethau a hyd yn oed ymgyrchoedd yn y dyfodol, drwy ddefnyddio’r llwyfannau digidol hyn lawer mwy nag y maent wedi ei wneud yn y gorffennol i gyfathrebu â phobl ifanc.
Felly, o ystyried pwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus i bobl ifanc, mae’r cynnig hwn heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi camau i gyflwyno cynllun cerdyn gwyrdd newydd i ddarparu mynediad at deithiau bws am ddim yn ddigyfyngiad a theithio ar y trên am bris gostyngol i’r holl bobl rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru. Rwy’n credu bod y cynllun hwn yn anfon neges glir i bobl ifanc ledled Cymru ein bod yn cydnabod y pryderon sydd ganddynt mewn perthynas â thrafnidiaeth gyhoeddus, a’n bod yn edrych ar ffyrdd y gallwn eu cefnogi’n well.
Bydd y polisi hwn hefyd yn helpu i gryfhau a chefnogi’r diwydiant bysiau yng Nghymru drwy annog mwy a mwy o bobl ifanc i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a thrwy hynny ddiogelu’r gwasanaethau bws hynny ar gyfer y dyfodol, sy’n arbennig o bwysig mewn ardaloedd gwledig a’r etholaeth a gynrychiolaf. Bydd cynllun fel hwn yn ddi-os yn gwneud rhai gwasanaethau bysiau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn llawer mwy cynaliadwy.
Wrth gwrs, gall y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus fod hyd yn oed yn fwy o rwystr i bobl ifanc ag anawsterau dysgu sy’n eithaf aml yn teimlo bod y system drafnidiaeth gyhoeddus yn gymhleth a bygythiol. Un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol y gall Llywodraeth Cymru gefnogi pobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu i ddefnyddio’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn syml iawn yw cynyddu dealltwriaeth a goddefgarwch o’r heriau sy’n wynebu pobl ifanc ag anawsterau dysgu. Rwyf wedi cael nifer o sylwadau gan grwpiau megis Pembrokeshire People First, a dylwn ddatgan buddiant fel eu llywydd. Mae grwpiau fel Pembrokeshire People First yn parhau i ddadlau dros bolisïau i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch i bobl ag anawsterau dysgu, ac un o’u galwadau yw hawl i deithio ar fysiau’n rhad ac am ddim. Y gobaith yw y bydd y cynllun hwn yn helpu mewn rhyw ffordd drwy annog mwy o bobl ifanc ag anawsterau dysgu i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a thrwy hynny feithrin eu hyder a’u hannog i fyw’n fwy annibynnol a chymryd rhan yn y gymuned ehangach.
Yn sicr, mae pwysigrwydd darparu trafnidiaeth gyhoeddus dda yn sicr i’w deimlo mewn ardaloedd gwledig, lle y ceir llai o wasanaethau a chostau uwch. Ar gyfer pobl ifanc sy’n byw mewn ardaloedd gwledig fel Sir Benfro, nid yw’r ddaearyddiaeth mor gydgysylltiedig â rhannau eraill o Gymru. Felly, credaf fod achos yma dros wneud gwell defnydd o’r fflyd drafnidiaeth bresennol yn ardaloedd gwledig yr awdurdodau lleol trwy ddatblygu mwy o ddull partneriaeth gyda’r rhai sy’n darparu gwasanaethau trafnidiaeth mewn cymunedau lleol. Byddai hyn yn golygu dwyn ystod o asiantaethau a rhanddeiliaid ynghyd, yn ogystal ag adrannau awdurdodau lleol, i gydlynu’n ganolog a threfnu trafnidiaeth gyhoeddus, trwy ystyried cynhwysedd y rhwydwaith prif ffrwd a dod o hyd i fylchau, gobeithio, yn y ddarpariaeth drafnidiaeth lle y gellir darganfod atebion ar y cyd. Gyda chyllid yn dynn i lawer o awdurdodau lleol mewn ardaloedd gwledig, mae angen dewisiadau amgen i gefnogi argaeledd trafnidiaeth ar gyfer pobl ifanc, ac efallai fod ymagwedd gydweithredol a all gydlynu trafnidiaeth gyhoeddus yn ffordd effeithiol ymlaen.
Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, wrth galon y ddadl hon mae’r awydd i ddarparu mwy o gymorth ac annibyniaeth i bobl iau. I wneud hyn, credaf fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru, darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus a phobl ifanc eu hunain weithio gyda’i gilydd i wneud gwasanaethau’n fwy fforddiadwy, hygyrch a derbyniol. Nod ein cynigion yw rhoi annibyniaeth i bobl ifanc deithio’n fwy rhydd o amgylch Cymru trwy gynnig teithiau bws am ddim a theithiau ar y trên am bris gostyngol i bobl ifanc, ac rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.