Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 18 Hydref 2017.
Rhaid i annog mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus fod yn agos at frig agenda unrhyw Lywodraeth. Mae’r manteision i’r amgylchedd, yr economi, iechyd y cyhoedd, yn ddiymwad. Yn ogystal, mae cynorthwyo ein pobl ifanc i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth ac addysg yn hanfodol i dwf a datblygiad ein gweithlu yn y dyfodol. Mae ein dadl heddiw—