9. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Teithio Rhatach ar Fws a Thrên i Bobl Ifanc

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:47, 18 Hydref 2017

Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl yma’r prynhawn yma. Nawr, mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw, oherwydd, mewn egwyddor, mi ydym ni’n gefnogol o’r syniad o ymestyn cymhwysedd ar gyfer hawlio teithiau bws a rheilffordd am ddim i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru. Os ydych chi’n gofyn i bobl ifanc os ydyn nhw eisiau talu i fynd ar y bws, neu fynd am ddim, mynd am ddim sy’n ei chael hi bob tro. Ond mae’n rhaid i’r gyllideb fod ar gael er mwyn gwireddu hynny. Felly, mi fuasem yn galw ar y Llywodraeth i edrych ar gynigion y Ceidwadwyr am hyn, ac i beidio â diystyru a phardduo unrhyw gynigion polisi gan wrthbleidiau heb hyd yn oed eu hystyried nhw’n gyntaf. Mi fuasai gwneud unrhyw beth i’r gwrthwyneb i hynny yn sicr yn anaeddfed ar ran y Llywodraeth ac yn or-blwyfol heb reswm. Oherwydd, o edrych ar welliannau’r Llywodraeth, yn ogystal â dogfen ymgynghori’r Llywodraeth, mae’n edrych yn debyg y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno rhywbeth tebyg dros y blynyddoedd nesaf, ta beth. Felly, mi oedd ymateb y Llywodraeth i’r cyhoeddiad yma gan y Ceidwadwyr yn hollol ddiangen.

Ond mae’n rhaid cofio, wrth gwrs, pam yr ydym yn ystyried ehangu’r manteision hyn i fwy o bobl ifanc. Yn amlwg, mi fuasai sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn dod â nifer o fanteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, fel rydym ni wedi clywed eisoes yn y drafodaeth yma. Ond, mewn rhannau helaeth o Gymru ble mae dreifio yn fwy cyfleus, mae trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn brin. Mae angen ehangu darpariaeth gwasanaethau bysys, ac yn y pen draw i’w ddod ag ef nôl i fod yn wasanaeth cyhoeddus.

Ond, mewn sefyllfaoedd a lleoliadau ble mae darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ar gael, yna mae’n angenrheidiol i ni ddarganfod ffyrdd arloesol er mwyn newid ymddygiad o blaid defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae angen cael bysys a threnau sydd yn ddibynadwy, sydd yn cyrraedd ar amser bob tro, sydd yn lân, sydd yn cydlynu efo gwasanaethau eraill, ac yn cydgysylltu efo'i gilydd, a hynny’n digwydd yn rheolaidd, fel nad oes angen treulio rhan sylweddol o bob dydd yn teithio.

Mae’r cynigion yr ydym yn eu dadlau heddiw’n werth eu hystyried fel un ffordd amlwg o gyrraedd at y nod o newid ymddygiad o blaid defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, o blaid rhyddhau a’i gwneud hi’n haws i’n pobl ifanc gael swydd yn y lle cyntaf a chadw’r swydd honno pan fyddan nhw wedi ei chael hi. Felly, edrychaf ymlaen at dderbyn rhagor o wybodaeth am y posibiliadau hyn gan y Llywodraeth ar ôl i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben. Diolch yn fawr.