10. 8. Dadl Plaid Cymru: Economi Gogledd Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:53 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:53, 18 Hydref 2017

Mae’n bleser gen i gymryd rhan yn y ddadl hollbwysig yma heddiw, ac, fel gog o’r gorllewin, rydw i am ddefnyddio fy nghyfraniad i i drafod y gogledd orllewin yn benodol. Un o fy hoff arferion i fel yr Aelod Cynulliad dros Arfon ydy sgwrsio efo chynifer o bobl â phosib ar draws yr etholaeth. A’r un peth sy’n cael ei godi efo fi—minnau hefyd, yn debyg i Llyr a Rhun. Dro ar ôl tro, beth sy’n cael ei godi efo fi ydy’r ymdeimlad yma fod Llywodraeth San Steffan, ac yn gynyddol Llywodraeth Cymru, yn gadael ein cymunedau ni ar ôl. Ond mae o’n fwy nag ymdeimlad; yn anffodus, mae o’n realiti hefyd. Mae Llyr Gruffydd wedi sôn am y ffaith bod trigolion y gogledd wedi derbyn dros £350 yn llai y pen, o’u cymharu â thrigolion de-ddwyrain Cymru ers 2013. Efo’r posibilrwydd o ddefnyddio holl bwerau benthyg y Llywodraeth ar ariannu prosiect drudfawr llwybr du’r M4 yn fuan, mae’n debyg mai dal i ddisgwyl am chwarae teg y bydd trigolion y gogledd, a hynny am flynyddoedd lawer i ddod, os nad oes yna newid cyfeiriad sylweddol.

Mae gorfodi’r Llywodraeth i fuddsoddi yn sylweddol yn ein cornel ni o Gymru yn aml yn teimlo fel trio gwasgu gwaed o garreg. Fel mae cynlluniau ar gyfer y ffordd osgoi yn y Bontnewydd yn dangos, mae buddsoddiadau sylweddol o’r math yma ond yn dod oherwydd ymgyrchu diflino gan Blaid Cymru dros nifer o flynyddoedd.

Mae angen buddsoddi yn isadeiledd y gogledd, ond hefyd fuddsoddi mewn swyddi. Yn fan hyn, mae yna gyfle i’r Llywodraeth ddangos eu hymrwymiad nhw i ddosbarthu cyfoeth drwy sicrhau bod swyddi yn y sector cyhoeddus a sefydliadau cenedlaethol yn cael eu dosbarthu ledled Cymru. Ond hyd yn oed ar ôl cyhoeddi'r strategaeth lleoli, gyda’r amcan o gynnal a chreu swyddi mewn ardaloedd y tu allan i goridor yr M4, methwyd â mynd â’r maen i’r wal, yn enwedig yn y gogledd-orllewin.

Yn 2010, roedd 127 o swyddi wedi’u lleoli yn nhref Caernarfon. Erbyn hyn, 82 o swyddi sydd yna yng Nghaernarfon, ac mae yna fwy o ansicrwydd ar y gorwel ar gyfer gweithwyr yn swyddfa Llywodraeth Cymru yn y dref. Mae’r Llywodraeth yn mynd i werthu’r safle presennol er mwyn lesu rhan o adeilad llai mewn rhan arall o’r dref—lesu, nid prynu adeilad newydd, efo’r hawl i ddiweddu’r les ar ôl pum mlynedd. Mae hyn, i mi, yn codi cwestiynau mawr am sicrwydd y swyddi yng Nghaernarfon yn yr hirdymor.

Roeddwn i’n falch iawn pan gytunodd Llywodraeth Cymru i alwadau Plaid Cymru i gynnwys £2 filiwn er mwyn hyrwyddo cydweithio rhwng pedair sir y gorllewin fel rhan o gytundeb y gyllideb. Mae gennym ni gyfle rŵan ar draws y gorllewin i rannu arfer da, gyfle i weithio yn strategol, a chyfle i gychwyn denu buddsoddiad newydd i’r gorllewin, oherwydd mi fyddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb unrhyw fath o ddêl yn ddim llai na thrychineb i’r ardal wledig, dlawd, orllewinol, Gymraeg yma. Mae’n rhaid inni felly ddyblu ein hymdrechion dros yr ardal, ac un cam clir y mae’n rhaid i’r siroedd gorllewinol hyn ei gymryd ydy gweithio gyda’i gilydd er mwyn denu buddsoddiad ar gyfer isadeiledd modern a swyddi o ansawdd i’r ardaloedd difreintiedig yma.

Pryder pobl yn fy etholaeth i yw na fydd manteision bargen twf y gogledd yn ymestyn i’r gogledd-orllewin. Felly, rwy’n edrych ymlaen at weld rhanbarth newydd, grymus yn dod i’r amlwg yn y gorllewin er mwyn gweithio yn erbyn methiannau Llywodraeth Cymru a’r Deyrnas Unedig i fuddsoddi mewn talp mawr o’n gwlad. Efallai wedyn y gallwn ni greu cenedl lle mae pob cwr o’r wlad yn cael cyfle i ffynnu.