Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 18 Hydref 2017.
Mae’n rhaid i mi ddweud, mewn dadleuon fel hyn, rydw i’n ffeindio fy hun ar dir haniaethol. Weithiau, rydw i’n tybio lle mae gogledd Cymru yn dechrau a lle mae’n bennu, ond y tro yma, rwyf newydd ddilyn sgwrs lle roeddwn i’n tybio ym mha fyd ac ym mha Gymru rydw i’n byw ynddo, achos roedd hynny yn gyfan gwbl afreal wrth gymharu â’r byd rydym ni’n byw ynddo fe—yn enwedig trafod treth nad yw’n bodoli eto, nad yw wedi cael ei chynnig yn ffurfiol, a lle mae Llywodraeth San Steffan yn gallu dweud ‘na’ wrth y dreth yna unrhyw bryd o gwbl.
Beth sydd yn digwydd yng ngogledd Cymru, wrth gwrs: mae twristiaeth yn hynod o bwysig i’r arfordir a’r ardaloedd gwledig, a beth fyddai’n gwneud byd o wahaniaeth yn fanna fyddai torri treth ar werth i 5 y cant, fel mae Plaid Cymru wedi bod yn ymgyrchu amdano yn gyson. Mae’r Ceidwadwyr, sydd wedi bod mor huawdl ynglŷn â thwristiaeth yn ystod y pythefnos diwethaf, ond wedi cadw treth ar werth ar 17.5 y cant, ac wedyn codi treth ar werth i 20 y cant ar fusnesau twristiaeth, ar ôl addo mewn etholiad na fyddan nhw byth yn gwneud y fath beth i ogledd Cymru a gweddill Cymru. Dyna’r gwir am y blaid honno.
Ond mae yna un peth sy’n gallu cael ei weld fel llinyn sy’n cysylltu’r gogledd, lle bynnag rydych chi’n teimlo mae’r gogledd yn dechrau—byddai rhai yn teimlo bod yr iaith yn dechrau newid rhywbryd uwchben Aberystwyth, a rhai eraill yn teimlo bod yn rhaid i chi fynd heibio Dolgellau; nid ydw i cweit yn siŵr lle yn union mae’r gogledd yn dechrau. Ond rydw i yn gwybod bod yna rywbeth cyffredin yn yr ardaloedd hynny, sef cefn gwlad, ffermio ac amaeth, ac adnoddau naturiol, yn enwedig y gwynt a’r glaw. Rydw i jest eisiau siarad yn fras iawn am y cyfleoedd y dylem ni drio manteisio arnyn nhw nawr i sefydlu economi cryfach gan ddefnyddio ein hadnoddau naturiol ni yn yr ardaloedd hynny i sicrhau dyfodol llewyrchus i gefn gwlad.
Mae Sian Gwenllian wedi cyffwrdd ar hyn, ond gobeithio y bydd hi’n maddau i mi jest ddweud ychydig mwy am y ffaith bod gyda ni erbyn hyn adroddiadau arbenigol iawn am y gwahanol senarios gall ddeillio o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, neu gyda chytundeb o fath arbennig, neu gyda pharhad ar, i bob bwrpas, y farchnad sengl a’r undeb tollau. O’r holl senarios yna, nid oes dim dwywaith bod gogledd Cymru’n mynd i fod yn dioddef yn wael iawn oni bai bod gyda ni rhyw fath o gytundeb sydd yn cadw mynediad at, neu rhywbeth reit tebyg i aros yn, y farchnad sengl a’r undeb tollau. Mae’n bwysig rhoi ar gofnod, rydw i’n meddwl, bod Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud bod yn rhaid i ni aros yn y farchnad sengl a’r undeb tollau, a bod yr NFU heb sôn yn benodol am y farchnad sengl ond wedi sôn yn benodol am aros yn yr undeb tollau, o leiaf am y tro, er mwyn sicrhau bod y masnachu yna’n digwydd. Mae un o’r senarios sydd wedi cael ei grybwyll gan adroddiad yr Agriculture and Horticulture Development Board yn dweud yn glir iawn bod yr ardaloedd hynny sydd yn llai ffafriol, sef y rhan fwyaf o amaeth yng ngogledd Cymru, yn mynd i fod nid yn unig yn colli arian ond, a dweud y gwir, yn mynd i fod mewn sefyllfa negyddol pe bai y cytundeb yna yn digwydd.
Mae yn bwysig, felly, ac nid ydym ni’n mynd i ymddiheuro i neb am roi mewn cynnig Plaid Cymru ar ddadl Plaid Cymru rai o’r pethau rydym ni wedi llwyddo eu sicrhau gan Lywodraeth Cymru. Yn eu plith nhw mae £6 miliwn ar gyfer ffermwyr newydd, ar gyfer pobl newydd i mewn i fyd amaeth, a chefnogaeth, rydw i’n gobeithio, drwy drafod gyda Llywodraeth Cymru, y byddwn ni’n cael gweld cynllun llewyrchus i sicrhau ein bod ni’n rhoi’r neges iawn i bobl. Wrth i ni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, mae yna gyfleoedd i waed newydd yn y diwydiant, mae yna gyfleoedd i bobl newydd ddod i mewn i’r diwydiant, ac yn fwy na dim byd arall, mae yna gyfleoedd i syniadau newydd ddod i mewn i amaeth, ac mae angen y chwyldro yna, wrth gwrs, er mwyn delio â her y dyfodol.
Ac, wrth gwrs, mae gyda ni lwyddiant wrth geisio lliniaru rhai o’r problemau sydd wedi deillio o newid trethi busnes a’r effaith ar gynlluniau ynni dŵr. Rydym ni wedi llwyddo cael rhyddhad treth ar gyfer cwmnïau cymunedol. Mae yna ddadl dros gael rhyddhad treth ar gyfer pob math o gwmni sydd yn gwneud ynni o’r dŵr. Rydym ni wedi pwsio’r Llywodraeth mor bell â gallan nhw yn y cytundeb yma. Mae yna oblygiadau tymor hir i drethi busnes. Mae’n amlwg nad yw’r Llywodraeth ddim yn moyn gweld trethi busnes yn lladd busnes llewyrchus ym maes ynni adnewyddo—rydw i’n siŵr nad ydyn nhw eisiau gweld hynny—ond dyna beth yw sgil effeithiau’r newid sydd wedi bod mewn trethi busnes, ac mae rhaid i unrhyw adolygiad nawr sicrhau bod yna lwyddiant a ffyniant. Rydw i’n gweld, er enghraifft, bod Llywodraeth San Steffan yn edrych ar ryddhad ar y dreth stamp, y dreth prynu tai ac eiddo, ar gyfer y tai ac eiddo sydd yn defnyddio ynni adnewyddol. Wel, gallem ni wneud yr un peth yn rhwydd fan hyn yng Nghymru. A dweud y gwir, roedd Plaid Cymru wedi cynnig hynny wrth edrych ar y dreth yn mynd trwy’r pwyllgor, ond nid oedd y Llywodraeth yn barod i dderbyn e ar y pryd.
Felly, jest i gloi ar nodyn o obaith, rydw i’n meddwl bod yna gyfleoedd di-ri i dyfu economi gogledd Cymru os rydym ni’n meddu ar ein hadnoddau ein hunain ac ar ein dyfodol ein hunain, ac mae hynny’n golygu mwy o rym i Gymru gyfan.