Tlodi Tanwydd yng Nghwm Cynon

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 1:32, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, er gwaethaf y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran lleihau tlodi tanwydd yng Nghwm Cynon a ledled Cymru trwy gyfres o gamau gweithredu ymarferol Llywodraeth Cymru, mae'n ymddangos yn annhebygol y bydd tlodi tanwydd yn cael ei ddileu erbyn y targed o 2018 a nodwyd yn flaenorol. A yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu'r strategaeth tlodi tanwydd yng ngoleuni hynny, ac, os felly, pa wersi fydd yn cael eu dysgu o elfennau llwyddiannus a heb fod mor llwyddiannus y cynllun presennol?