Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 24 Hydref 2017.
Mae arolwg cyflwr tai Cymru wedi cychwyn erbyn hyn. Bydd hwnnw'n darparu data pwysig a fydd yn helpu i hysbysu cyflwyniad 'Ffyniant i Bawb'. Bydd yn rhoi amrywiaeth o wybodaeth i ni, gan gynnwys amcangyfrifon a data tlodi tanwydd cenedlaethol wedi eu diweddaru i helpu gyda thargedu mesurau cyflawni. Bydd hefyd yn ein helpu i hysbysu trafodaethau gyda rhanddeiliaid, a bydd hynny'n golygu, wrth gwrs, y gallwn fanteisio ar y data y mae'r arolwg yn eu darparu er mwyn helpu i gryfhau'r strategaeth yn y dyfodol.