Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:45, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gan ddychwelyd at y thema y cyfeiriwyd ati gan arweinydd Plaid Cymru yn gynharach heddiw—Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)—sut ar y ddaear all y Prif Weinidog gefnogi mesur sydd mor atchweliadol yn y modd y mae'n gweithio? Mae hwn yn fesur sydd wedi ei lunio'n benodol, yn anghymesur, i dargedu'r diodydd hynny sy'n cael eu hyfed mewn mesurau anghymesur gan bobl ar incwm isel. Mae'n hysbys iawn bod aelwydydd incwm isel yn prynu llai o unedau o alcohol ar y cyfan, ond mae mwy o’r hyn y maen nhw’n ei brynu wedi ei brisio ar lai na 40c yr uned. Ble mae'r tegwch mewn mesur sy'n gadael sosialwyr siampaen maestrefi mwy llewyrchus Caerdydd heb eu heffeithio, ond yn targedu yfwyr cwrw Blaenau Gwent?