Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:46, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

A yw o ddifrif yn dweud bod pobl ar incwm isel yn yfed mwy yn ôl eu cyfran? Mae hynny'n snobyddiaeth o raddau nad wyf i erioed wedi ei weld o'r blaen, mae'n rhaid i mi ddweud. A chanlyniad ei ddadl, yn yr achos hwnnw, yw y dylem ni leihau'r dreth ar dybaco, gan fod honno’n atchweliadol yn anghymesur hefyd, felly gadewch i ni leihau'r dreth ar dybaco hefyd. Mae'n union yr un ddadl. Yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw sicrhau nad yw alcohol yn dod yn rhatach ac yn rhatach, fel y mae wedi dod, fel bod pobl yn yfed mwy a mwy, gan eu bod yn ei ystyried yn rhad.

Fel y dywedais yn gynharach, ceir problem i’r tafarndai yma hefyd. Mae tafarndai yn cael eu hergydio flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn gan alcohol rhad o archfarchnadoedd, ac mae tafarndai’n fannau cyfrifol lle mae pobl yn yfed—maen nhw'n gofalu am bobl sy’n feddw ac yn gwrthod gwerthu iddynt—ac mae tafarndai'n cael eu colli yn eithriadol o gyflym yn ein cymunedau. Siaradwch ag unrhyw dafarnwr a bydd yn dweud wrthych mai rhan o'r rheswm yw bod pobl yn prynu alcohol rhad o archfarchnadoedd, sy’n cael ei werthu am bris is-gost, yn aml iawn. Nawr, mae'r bobl hynny yn haeddu tegwch hefyd. Felly, oes, wrth gwrs, mae agwedd iechyd i hyn, ond hefyd, wrth gwrs, fel mater cysylltiedig, gwyddom mai un o'r canlyniadau yw y bydd yn cynnig sefyllfa llawer mwy teg i dafarndai hefyd.