Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:47, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Ni ddywedais fod pobl ar incwm isel yn prynu mwy o alcohol; dywedais y gwrthwyneb a dweud y gwir—bod pobl ar incwm isel yn prynu llai o alcohol yn gyffredinol na phobl ar incwm uwch, ond mae mwy o'r alcohol y maen nhw’n ei yfed yn frandiau rhatach, nid brandiau drytach, felly bydd yn cael effaith anghymesur o galed ar bobl ar incwm isel.

Dywedodd y Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes yn 2009 fod tystiolaeth sylweddol, yn gyffredinol, mai yfwyr trymach sydd leiaf ymatebol i newidiadau i brisiau. Felly, yr yfwyr alcohol sy’n peri problemau yw’r rhai sydd leiaf tebygol o ymateb i'r mesurau sy’n cael eu cynnig nawr. Yr hyn sy'n mynd i ddigwydd yma yw y bydd yr yfwyr sy’n peri problemau gwirioneddol yn parhau i yfed, ac efallai y bydd ganddyn nhw lai o arian i'w wario ar bethau fel bwyd. Felly, o safbwyntiau deietegol eraill, mae eu hiechyd yn mynd i ddioddef. Ni fydd hyn yn cael unrhyw effaith gadarnhaol o gwbl. Yr unig bobl sydd wir yn mynd i fanteisio ar hyn yw'r archfarchnadoedd, oherwydd nid treth sy'n cael ei chodi yw hon—bydd yn codi pris cynnyrch rhad, a bydd hynny'n cynhyrchu elw ychwanegol i'r archfarchnadoedd. Yn sicr ni fydd yn cynhyrchu elw ychwanegol i dafarndai.