Lefelau Cynhyrchu y Diwydiant Garddwriaeth

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:53, 24 Hydref 2017

Mae yna grŵp cydweithredol wedi cael ei sefydlu, ac mae’n cynnwys rhai o’r sector gyhoeddus yng Nghymru. Nod y grŵp hwnnw yw sicrhau ein bod ni’n gweithredu ar sicrhau bod yna fargen dda ynglŷn â chaffael. Mae hwnnw’n gweithio gyda chyrff cyhoeddus a hefyd gyda’r rheini sydd yn cynhyrchu er mwyn symud y project hwn ymlaen. So, felly, mae yna bethau’n cael eu gwneud wrth weithio gyda’r diwydiant er mwyn sicrhau bod mwy o fwyd a diod yn dod i mewn o Gymru. Un o’r pethau, wrth gwrs, sydd wedi newid dros y blynyddau yw, ar un adeg, un o’r problemau, gyda chytundebau mawr fel y gwasanaeth iechyd, oedd nad oedd dim corff neu fusnes digon mawr i sicrhau bod nwyddau yn mynd i mewn i’r farchnad honno ddydd ar ôl dydd, fis ar ôl mis. Mae hynny wedi newid nawr, ac mae hynny, wrth gwrs, o achos y gwaith rŷm ni wedi ei wneud fel Llywodraeth ynglŷn â chefnogi edrych ar hyn mewn ffordd wahanol ac nid yn yr un hen ffordd.