Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 24 Hydref 2017.
Rydw i’n gweld, Brif Weinidog, fod eirin Dinbych yn mynd i fod yn cael eu gweini fel pwding yfory yn y Cynulliad. Felly, mae croeso i bawb gyfrannu drwy fwyta’r eirin hyfryd hynny. Ond wrth inni ymadael â’r polisi amaeth cyffredin, sydd erioed wedi rhoi unrhyw gefnogaeth i arddwriaeth yng Nghymru, pa gamau ydych chi’n mynd i’w cymryd fel Llywodraeth i sicrhau bod yna gefnogaeth i adeiladu’r seilwaith ar gyfer gwneud yn siŵr bod ffermwyr nawr yn gallu buddsoddi mewn garddwriaeth ac ar gyfer y marchnadoedd newydd?