Lefelau Cynhyrchu y Diwydiant Garddwriaeth

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:55, 24 Hydref 2017

Nawr, mae hyn yn rhywbeth, wrth gwrs, rŷm ni’n ei ystyried gyda’r diwydiant ar hyn o bryd. Y peth cyntaf rydw i’n moyn ei bwysleisio, wrth gwrs, yw’r ffaith ein bod ni’n wastad wedi dweud y dylai’r un faint o arian fod ar gael yn y dyfodol â beth sydd nawr. Beth rŷm ni wedi dweud wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw y dylai’r arian gael ei ddodi mewn un lle ac nad oes unrhyw beth i’w newid ynglŷn â’r cyfanswm hynny heb fod yna gytundeb rhwng y Llywodraethau i gyd. Ond, wedi dweud hynny, mae yna gyfle inni nawr ystyried ym mha ffordd y gallwn ni ddefnyddio’r arian hynny er lles ffermwyr Cymru—edrych ar ffyrdd newydd, efallai, o weithio—ac mae hynny’n un peth y gallwn ni ei ystyried.

Rydw i’n cofio, 17 o flynyddoedd yn ôl, pan oeddwn i’n aelod o bwyllgor amaeth y Cynulliad, roedd yna adolygiad wedi cael ei wneud bryd hynny ar arallgyfeirio, a’r peth a ddaeth reit lan ar y top ynglŷn â beth oedd â’r cryfder mwyaf yn y pen draw oedd tyfu llysiau organig. Felly, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi bod rownd ers amser, ond, wrth gwrs, nid oedd y system talu ‘subsidies’ yn ddigon hyblyg er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu defnyddio’r arian yn y ffordd y byddem ni eisiau. Mae yna gyfle nawr, wrth gwrs, yn y dyfodol, i sicrhau bod hyn yn digwydd.