Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 24 Hydref 2017.
Wel, os edrychwn ni ar yr adroddiad diweddar gan Hospice UK ar ofal hosbis yng Nghymru, mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n ei groesawu—yr hyn a ddywedodd yr adroddiad. Mae'n cydnabod y camau cadarnhaol a amlinellir yn y cynllun cyflenwi gofal lliniarol a diwedd oes. Mae'n tynnu sylw at yr angen am sicrwydd am gyllid hirdymor. Yn rhan o'r cytundeb cyllideb gyda Phlaid Cymru, rhoddwyd £1 filiwn ychwanegol ar gael gennym yn 2017 i wella darpariaeth gofal diwedd oes ymhellach. Mae hwnnw'n gyllid ailadroddus hefyd. Ond wrth gwrs, o ran ymgysylltu â'r sector, y byrddau gofal sy'n darparu'r lefel honno o ymgysylltiad, a dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni’n gweithio gyda nhw i nodi'r adnoddau sydd eu hangen.