Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 24 Hydref 2017.
Mae’r grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol yma yn y Cynulliad yn edrych ar y posibiliad o ymchwilio i sut i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn y mynediad at ofal hosbis yng Nghymru. Mi gyfeirioch chi at yr arian a sicrhawyd mewn cytundeb rhyngom ni a’r Llywodraeth. Ond, onid y gwir amdani ydy bod cyfres o Lywodraethau Llafur wedi methu â mynd i’r afael â’r elfen sylfaenol yna, fod yna anghydraddoldeb yn y mynediad at y gofal cwbl, cwbl allweddol yma ar draws Cymru?