Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 24 Hydref 2017.
Na, nid wyf i’n derbyn hynny. Rydym ni wedi sicrhau bod yna fuddsoddiad ar gael i fyrddau iechyd. Mae’n fater, wrth gwrs, i fyrddau iechyd sicrhau bod yna wasanaeth ar gael, ac mae hynny’n rhywbeth rŷm ni wedi gweithio gyda nhw arno, ynglŷn â sicrhau bod hwnnw’n cael ei weithredu. Rŷm ni’n gwybod bod hosbisau eu hunain wedi cymryd mwy o rôl yn y pum mlynedd diwethaf nag o’r blaen, nid dim ond o ran gofal, ond rhoi cyngor i bobl hefyd. Ac nawr, wrth gwrs, rŷm ni’n moyn gweithio gyda’r byrddau er mwyn sicrhau ein bod ni’n gwybod beth nesaf sy’n gorfod cael ei wneud er mwyn sicrhau bod yna wasanaeth cyson ar gael ar draws Cymru.